Ar gyfer y cwsmer domestig, gallwn ni gyflenwi carpedi a lloriau o bob gradd, sy'n addas ar gyfer lolfa, ystafelloedd bwyta, llofftydd, cyntedd, grisiau a phengrisiau.
Mae'r amrywiaeth gynhwysfawr o Garpedi Kingsmead Cyf, sy'n cynhyrchu mewn gwlân, cymysgedd o wlân a ffibrau wedi'u gwneud gan ddyn, yn cwmpasu ystod eang o arddulliau a phrisiau. Gyda'u dewis hawdd eu glanhau, Everlon, yn arbennig o boblogaidd. Mae carped traddodiadol Axminster gan Brintons a Charpedi Ulster yn parhau i fod yn ddewis gwych os ydych yn chwilio am garped i wneud gwir argraff weledol.
Mae Finyl yn parhau’n ddewis poblogaidd i geginau ac ystafelloedd ymolchi, ac â chymaint o ddyluniadau modern a thraddodiadol i ddewis ohonynt y mae’n haeddu bod. Er y gallai fod yn well gan rai cwsmeriaid ein dewis o deilsen a phlanc finyl moethus sy’n gynyddol ffasiynol ac yn ymarferol: Karndean a Polyflor Expona; ac sy'n gallu gwneud eich prosiect yn fwy arbennig.
Rydym yn falch iawn o ddarparu gwasanaeth atgyweirio, lle bo'n bosib, i'r holl ddeunyddiau uchod.
Erbyn 2020 byddwn ni wedi bod mewn busnes ers hanner canrif, ac rydym yn falch o barhau i gynnig y safonau uchaf un gan ddarparu crefftwaith o’r ansawdd uchaf a gwasanaeth dwyieithog, cyfeillgar a dibynadwy. Gallwn, fel erioed, symud eich dodrefn, a gan mai paratoi yw'r allwedd i osod carpedi yn dda, caiff hyn oll ei wneud heb ffwdan gan gynnwys atgyweirio lloriau pren a thocio drysau.
Yn aml, mae'n well gan gwsmeriaid weld samplau o garpedi a lloriau yn eu cartrefi eu hunain; gall lliwiau newid eu tôn a'u dyfnder o dan amodau golau gwahanol, felly â hynny mewn golwg, rydym yn cynnig ein “gwasanaeth dewis patrwm yn y cartref” hollbwysig, pan allwch weld sut bydd y samplau gwahanol yn gweithio gyda gweddill eich cartref.
Felly, cysylltwch â ni i sgwrsio am eich gofynion.
Rydym yn cyflenwi carpedi o bob graddfa, o'r economi cefn ffelt i Axminster traddodiadol Brintons a charpedi Ulster, ac rydym yn ymfalchïo mewn gosod ein holl garpedi i'r safonau uchaf un, gan gynnwys gosodiadau'r corff a'r ffin.
Wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru'r cwmni 05288229.
Cyfeiriad Cofrestredig yw 23 Heol Wynnstay, Bae Colwyn, LL29 8NB.
Rhif TAW 289359985.

01492 680 634 | Cysylltwch  Ni