Fe gafodd Cledwyn Jones Carpedi Cyf ei sefydlu yn 1970 gan Cledwyn & Gaynor Jones, ym mhentref pictiwrésg Betws yn Rhos, yng nghyffiniau Abergele. Fel llawer o fusnesau eraill sydd newydd gychwyn, cawsom ddechreuad cymedrol, gyda sied yn yr ardd i storio a fan fach mini ar gyfer cludiant! Buom yn gweithio'n galed i adeiladu ein busnes, ac rydym yn awr yn falch iawn o’r ffaith fod llawer o'r cwsmeriaid wnaeth ein cefnogi yn y blynyddoedd cyntaf yn dal hefo ni heddiw. Rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth cyflenwi a gosod llawn, ac mae ein busnes yn dal i fod wedi'i leoli ym Metws yn Rhos, ond yn awr o uned ddiwydiannol a ystafell arddangos fodern, a wrth gwrs mae gennym faniau mwy o faint!
Rydym yn cynnig gwasanaeth dau berson llawn amser, sef Paul Jones, mab Cledwyn a ymunodd yn 1986 a John Edwards yr ydym yn falch iawn o ddweud wedi ymuno ag ef yn 2011 gan ddod â deunaw mlynedd o brofiad gydag ef. Mae gan y cwmni hefyd y gefnogaeth ychwanegol o ddau osodwyr lloriau profiadol rhan amser, yn ôl y galw.
Rydym yn cyflenwi carpedi o bob gradd, o'r economi cefn ffelt i Axminster traddodiadol Brintons a charpedi Ulster, ac rydym yn ymfalchïo mewn gosod ein holl garpedi i'r safon uchaf un, gan gynnwys gosodiadau'r corff a'r ffin.
Yn ogystal â gosod carpedi, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o loriau diogelwch a gwrth-lithro, sy'n ddelfrydol ar gyfer ceginau, ystafelloedd bwyta, ymolchi ac ystafelloedd gwlyb, yn enwedig mewn adeiladau masnachol. Mae'n well gan rai cwsmeriaid ystyried ein amrywiaeth o loriau nodwedd, fel lino neu finyl traddodiadol, a cheir hefyd amrywiaeth o deils finyl a planciau moethus, nodweddiadol gan Karndean a Polyflor sy'n dod yn fwy poblogaidd a fydd yn gwneud eich prosiect yn fwy arbennig.
Rydym yn falch iawn o ddarparu gwasanaeth atgyweirio, lle bo'n bosib, i'r holl ddeunyddiau uchod.
Yn aml, mae'n well gan gwsmeriaid weld samplau o garped a lloriau yn eu cartrefi eu hunain; mae lliwiau'n gallu newid eu tôn a'u dyfnder o dan amodau golau gwahanol, felly gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig ein “gwasanaeth dewis patrwm yn y cartref” lle gallwch weld sut bydd y samplau gwahanol yn gweithio gyda gweddill eich cartref.
Rydym hefyd yn cynnig gwaith paratoi cyflawn ar yr is-lawr yn ôl yr angen, gan gynnwys gwaith estyll, pren haenog dan y llawr, cymhwyso cyfansoddion llyfnu a profi a oes angen DPM lle mae darlleniadau'n dangos bod eu hangen. Byddwn yn symud dodrefn, codi hen loriau, yn tocio drysau ac, wrth gwrs, byddwn bob amser yn tacluso.
Erbyn 2020 byddwn ni wedi bod mewn busnes ers hanner canrif, ac rydym yn falch o barhau i gynnig y safonau uchaf o waith crefft, hefo gwasanaeth dwyieithog, cyfeillgar a dibynadwy. Cysylltwch â ni i sgwrsio am eich gofynion. Mae ein hystafell arddangos yma ym Metws yn Rhos hefyd ar gael i'w gweld, drwy apwyntiad.
Mae ein cwsmeriaid gwerthfawr yn cynnwys ysgolion cyhoeddus a phreifat, cwmni cynnal a chadw adeiladau Cenedlaethol, sectorau lletygarwch, cartrefi gofal, banciau, eglwysi, adeiladwyr lleol ac wrth gwrs ein cwsmeriaid domestig.
Wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru'r cwmni 05288229.
Cyfeiriad Cofrestredig yw 23 Heol Wynnstay, Bae Colwyn, LL29 8NB.
Rhif TAW 289359985.

"Ni ddylid byth dan amcangyfrif faint gall lliwiau newid o dan amodau golau gwahanol."
01492 680 634 | Cysylltwch  Ni